Festival au désert
From Wikipedia, the free encyclopedia
Gŵyl gerddorol flynyddol ym Mali yw'r Festival au désert (Ffrangeg am "Gŵyl yr Anialwch"). Cynhaliwyd yr ŵyl gyntaf, a ysbrydolwyd gan ymgynulliadau traddodiadol y Twareg, yn Ionawr 2001.[1][2] Mae'r ŵyl yn canolbwyntio'n bennaf ar gerddoriaeth y Twareg a phobloedd eraill Mali a'r Sahara, ond hefyd yn cynnal perfformwyr o bob rhan o'r byd.
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Dechrau/Sefydlu ...
Enghraifft o'r canlynol | gŵyl gerddoriaeth |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 2001 |
Lleoliad | Tombouctou, Essakane, Tessalit, Tin-Essako |
Gwefan | http://www.festival-au-desert.org/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cau
Yn 2012 datganwyd y bydd gŵyl 2013 i'w chynnal yn Oursi, Bwrcina Ffaso, ym mis Chwefror o ganlyniad i waharddiad gan Islamyddion y MUJAO ar gerddoriaeth Orllewinol yng ngogledd Mali.[3] Cynhaliwyd yr ŵyl ddiweddaraf ym Merlin, yr Almaen, o 8 hyd 10 Ionawr 2014.[4]