Fernão de Magalhães
From Wikipedia, the free encyclopedia
Fforiwr o Bortiwgal oedd Fernão de Magalhães (Sbaeneg: Fernando de Magallanes, Saesneg: Ferdinand Magellan) (Gwanwyn 1480 – 27 Ebrill 1521).
Fernão de Magalhães | |
---|---|
Ganwyd | c. 1480 Ponte da Barca |
Bu farw | 27 Ebrill 1521 Mactan |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Portiwgal, Coron Castilia |
Galwedigaeth | fforiwr, morwr, morwr |
Tad | Rui de Magalhães |
Mam | Alda de Mesquita |
Priod | Beatriz Barbosa |
Gwobr/au | Commander of the Order of Santiago, Urdd Filwrol Sant Iago'r Gleddyf, Urdd Crist |
llofnod | |
Ef drefnodd y fordaith Sbaenaidd i India’r Dwyrain rhwng 1519 a 1522 a arweiniodd at gwblhau’r fordaith gyntaf o gwmpas y byd yn llwyddiannus. Bu farw yn y Philipinas cyn cwblhau'r daith, a chwblhawyd y gylchdaith gan Juan Sebastian Elcano. Arweiniodd Magellan sawl mordaith i India ac Affrica ar ran Portiwgal rhwng 1505 a 1516. Yn y flwyddyn 1519, dan nawdd Sbaen y tro yma, cychwynnodd gyda llynges fach o bum llong - ei fanerlong Trinidad, y San Antonio, Concepcio, Victoria a'r Santiago - i geisio darganfod llwybr i ynysoedd y Molucca.
Croesodd y Cefnfor Tawel draw i Batagonia ac aeth drwy'r culfor a enwyd ar ei ôl, sef Culfor Magellan. Yng ngwanwyn 1521 cyrhaeddodd yr Indies ond cafodd Magellan ei ladd yn y Philipinau yn ystod Brwydr Mactan. Cyrhaeddodd y fordaith Ynysoedd y Sbeisys yn 1521 gan ddychwelyd i Sbaen drwy Gefnfor India.[1]
Y Victoria oedd yr unig un o'r 5 llong i ddychwelyd i Sbaen, gan gwblhau (dan gapteiniaeth Juan Sebastián del Cano o Wlad y Basg) y fordaith gyntaf yr holl ffordd o gwmpas y byd.[2]