Eugene Cernan
From Wikipedia, the free encyclopedia
Gofodwr, awyrennwr llyngesol, peiriannydd trydanol, peiriannydd awyrenegol a peilot-ymladdwr o Americanwr oedd Eugene Andrew "Gene" Cernan, CAPT, USN (/ˈsər.nən/; 14 Mawrth 1934 – 16 Ionawr 2017), ac y dyn olaf i gerdded ar y Lleuad ym 1972.
Eugene Cernan | |
---|---|
Ganwyd | Eugene Andrew Cernan 14 Mawrth 1934 Chicago |
Bu farw | 16 Ionawr 2017 Houston |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | swyddog yn y llynges, gofodwr, peilot awyren ymladd, hunangofiannydd, person busnes, aeronautical engineer, naval aviator |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Y Groes am Hedfan Neilltuol, Gwobr 'Hall of Fame' am Hedfan, Gwobr 'Hall of Fame' i Ofodwyr UDA, Grand Officer of the Order of the White Double Cross, NASA Distinguished Service Medal, International Space Hall of Fame, Washington Award, Wright Brothers Memorial Trophy |
Teithiodd i'r gofod deirgwaith: fel Peilot y Gemini 9A ym mis Mehefin 1966, fel Peilot y Modiwl Lleuad ar Apollo 10 ym mis Mai 1969, ac fel Rheolwr Apollo 17 ym mis Rhagfyr 1972, y glaniad olaf o deithiau Apollo ar y lleuad. Ar Apollo 17, daeth Cernan yr unfed person ar ddeg i gerdded ar y Lleuad a'r dyn mwyaf diweddar i gerdded ar y Lleuad, gan mai fe oedd yr olaf i fynd nôl mewn i'r Modiwl Lleuad Challenger ar ôl y trydedd gweithgaredd allgerbydol (EVA), yr olaf yn y daith. Roedd Cernan hefyd yn aelod wrth gefn o'r criw ar gyfer teithiau gofod Gemini 12, Apollo 7 ac Apollo 14.