Domingo Faustino Sarmiento
From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwleidydd, llenor, ac addysgwr Archentaidd oedd Domingo Faustino Sarmiento (15 Chwefror 1811 – 11 Medi 1888) a wasanaethodd yn Arlywydd yr Ariannin o 1868 i 1874. Mae'n nodedig yn llên yr Ariannin, ac America Ladin yn gyffredinol, am ei ysgrif hir Facundo (1845).
Domingo Faustino Sarmiento | |
---|---|
Ganwyd | 14 Chwefror 1811 San Juan |
Bu farw | 11 Medi 1888 Asunción |
Dinasyddiaeth | yr Ariannin |
Galwedigaeth | gwleidydd, ysgrifennwr, newyddiadurwr, person milwrol, diplomydd, hanesydd |
Swydd | Arlywydd yr Ariannin, Aelod o Siambr Seneddwyr yr Ariannin, Arlywydd yr Ariannin, ambassador of Argentina to Chile, ambassador of Argentina to the United States |
Adnabyddus am | Facundo, Recuerdos de Provincia, Q55832747, Q111798687 |
Plaid Wleidyddol | Unitarian Party |
Mam | Paula Zoila Albarracín Irrazábal de Sarmiento |
Priod | Benita Martínez Pastoriza |
Plant | Ana Faustina Sarmiento |
llofnod | |
Ganwyd yn San Juan yng ngorllewin yr Ariannin. Trwy hunanaddysg daeth yn ddyn ifanc deallus a gwleidyddol. Treuliodd rhyw deng mlynedd yn alltud yn Tsile, ac yno yr oedd yn weithgar yn addysg gyhoeddus y wlad. Daeth yn adnabyddus hefyd fel newyddiadurwr ac ysgrifwr gwleidyddol, a theithiodd i Ewrop a'r Unol Daleithiau. Dychwelodd i'r Ariannin i gynorthwyo yn y gwrthryfel yn erbyn yr unben Juan Manuel de Rosas. Daeth yn wleidydd amlwg yn ei famwlad, ac etholwyd yn arlywydd yn 1868. Aeth ati i ddiwygio'r gyfundrefn addysg yn ystod ei arlywyddiaeth.