Defnyddiwr:Jason.nlw/WiciBrosiect Addysg/Merthyr Tudful
From Wikipedia, the free encyclopedia
Tref ym mwrdeistref sirol Merthyr Tudful yw Merthyr Tudful, ym Morgannwg, de Cymru, sydd 23 milltir (37 km) i'r gogledd o Gaerdydd. Yn 2011 roedd ganddi boblogaeth o dros 59,500. Mae etholaeth Merthyr Tudful a Rhymni yn ethol aelod i'r Cynulliad Cenedlaethol a Merthyr Tudful a Rhymni i Senedd San Steffan yn Llundain. Mae'r etholaeth hefyd yn rhan o Ranbarth De Ddwyrain Cymru ar gyfer ethol aelodau rhanbarthol y Cynulliad. Caiff ei hadnabod ledled y byd fel prifddinas cynhyrchu haearn yn ystod y chwyldro diwydiannol.
Daearyddiaeth | |
---|---|
Gwlad | Cymru |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Dawn Bowden (Llafur) |
AS/au | Gerald Jones (Llafur) |
Adnoddau Dysgu | |
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma | |
---|---|
HWB | |
Y Chwyldro Diwydiannol yng Nghymru | |
CBAC | |
Radicaliaeth a Phrotest, 1810 -1848 | |
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg |
- Mae'r erthygl hon yn sôn am dref Merthyr Tudful. Am Fwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, gweler Merthyr Tudful (sir).
- Gweler hefyd Merthyr (gwahaniaethu).
Mae'r dref yn ymestyn o gymer afonydd Taf Fawr a Thaf Fechan i gyfeiriad Pontypridd, rhwng 100 a 400 metr uwchlaw lefel y môr. Tyfodd y dref oherwydd ei daeareg gyfoethog, lle cloddiwyd am dair math o garreg: glo, haearn a chalchfaen. Ar ben hyn, roedd glaw trwm yn peri i'r nentydd lifo'n gryf, gan gynhyrchu ynni i droi peiriannau'r gwaith haearn.