Defnyddiwr:Jason.nlw/WiciBrosiect Addysg/Injan Stêm
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae locomotif stêm neu drên stêm yn fath o locomotif rheilffordd sy'n cynhyrchu ei bŵer tynnu drwy injan stêm. Mae'r locomotifau hyn yn cael eu tanio drwy losgi deunydd llosgadwy - glo, pren neu olew fel arfer - i gynhyrchu stêm mewn boeler. Mae'r stêm yn symud pistonau sydd wedi eu cysylltu'n fecanyddol â phrif olwynion (gyrwyr) y locomotif. Mae cyflenwadau tanwydd a dŵr yn cael eu cludo gyda'r locomotif, naill ai ar y locomotif ei hun neu mewn wagenni (tendrau) sy'n cael eu tynnu y tu ôl.
Datblygwyd y locomotifau stêm cyntaf yn y Deyrnas Unedig yn gynnar yn y 19eg ganrif ac fe'u defnyddiwyd ar gyfer cludo ar reilffyrdd tan ganol yr 20fed ganrif. Adeiladwyd y locomotif stêm cyntaf ym 1802 gan Richard Trevithick. Adeiladwyd y locomotif stêm llwyddiannus masnachol cyntaf ym 1812–13 gan John Blenkinsop,[1] sef y Salamanca, a'r Locomotion Rhif 1, a adeiladwyd gan George Stephenson a chwmni ei fab Robert, sef Robert Stephenson and Company, oedd y locomotif stêm cyntaf i gludo teithwyr ar reilffordd gyhoeddus, ar Reilffordd Stockton a Darlington ym 1825. Ym 1830, agorodd George Stephenson y rheilffordd gyhoeddus rhyng-ddinas gyntaf, sef Rheilffordd Lerpwl a Manceinion. Robert Stephenson and Company oedd cwmni adeiladu mwyaf blaenllaw locomotifau stêm ar gyfer rheilffyrdd yn y Deyrnas Unedig, yr Unol Daleithiau, a llawer o Ewrop yn negawdau cyntaf trenau stêm.
Roedd trenau stêm yn caniatáu cludo nwyddau trwm ar y tir yn hawdd, a bu dyfodiad y trên yn bwysig yn natblygiad y Chwyldro Diwydiannol yng Nghymru, Prydain a gwledydd eraill. Yn yr 20fed ganrif, dyluniodd Prif Beiriannydd Mecanyddol Rheilffordd Llundain a'r Gogledd Ddwyrain (LNER), Nigel Gresley, rai o locomotifau enwocaf y byd, gan gynnwys y Flying Scotsman, y locomotif stêm cyntaf a gyrhaeddodd dros 100 milltir yr awr yn swyddogol wrth gludo teithwyr, a Dosbarth LNER A4, 4468 Mallard, sy'n parhau i ddal y record am fod y locomotif stêm cyflymaf yn y byd (126 100 milltir yr awr).[2]
O ddechrau'r 1900au, disodlwyd locomotifau stêm yn raddol gan locomotifau trydan a disel, gyda'r rheilffyrdd yn dechrau trosi'n llawn i bŵer trydan a disel ar ddiwedd y 1930au. Roedd mwyafrif y locomotifau stêm wedi ymddeol o wasanaeth rheolaidd erbyn y 1980au, er bod sawl un yn parhau i redeg ar linellau twristiaeth a threftadaeth.[3]