Defnyddiwr:Jason.nlw/WiciBrosiect Addysg/Adolf Hitler
From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Adolf Hitler (20 Ebrill 1889 – 30 Ebrill 1945) yn arweinydd Plaid y Gweithwyr Sosialaidd Cenedlaethol (Nationalsozialistische Deutsche Arbeiterpartei) yn yr Almaen (a adnabuwyd fel y Blaid Natsïaidd) ac yn ddiweddarach daeth yn Ganghellor ac yna'n Führer a Reichskanzler (arweinydd a changhellor) yr Almaen. Ef sefydlodd y Drydedd Reich (1933–1945).
Jason.nlw/WiciBrosiect Addysg/Adolf Hitler | |
---|---|
Dinasyddiaeth | Yr Almaen |
Adnoddau Dysgu | |
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma | |
---|---|
CBAC | |
Datblygu Rhyfela | |
HWB | |
Cytundeb Versailles | |
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg |
Ei ymgais i greu Almaen Fwy (Großdeutschland) gan ddechrau drwy uno Awstria â'r Almaen, a goresgyniad Tsiecoslofacia a Gwlad Pwyl, oedd wrth wraidd yr Ail Ryfel Byd.
Roedd ganddo ef a'i blaid bolisi pendant o wrth-Semitiaeth a arweiniodd yn y pen draw at ymgais i ddileu'r Iddewon yn gyfan gwbl o Ewrop. Dyma oedd yr Holocost.[1] O dan arweinyddiaeth Hitler roedd y Natsïaid yn gyfrifol am hil-laddiad tua 6 miliwn o Iddewon a miliynau o ddioddefwyr eraill.
Ar 30 Ebrill 1945 cyflawnodd hunanladdiad, gyda’i wraig, Eva Braun, drwy gymryd gwenwyn a saethu ei hun yn ei fyncer o dan y Canghellordy yn Berlin.