David Beckham
actor a aned yn 1975 / From Wikipedia, the free encyclopedia
Chwaraewr pêl-droed yw David Robert Joseph Beckham OBE (ganed 2 Mai 1975). Ar hyn o bryd, mae'n chwarae yng nghanol y maes i glwb Los Angeles Galaxy ac i dîm cenedlaethol Lloegr. Mae cyfnod Beckham gyda Milan, a ddechreuodd ar y 9fed o Ionawr, 2009, yn fenthyciad o ddeufis er mwyn iddo gynnal ei lefelau ffitrwydd yn ystod cyfnod tawel y tymor Americanaidd, er mwyn iddo fedru cynnal ei yrfa gyda thîm Lloegr. Fodd bynnag, mae Beckham wedi datgan ei ddyhead i gael cytundeb parhaol gyda Milan.
Beckham cyn gêm elusennol LA Galaxy yn erbyn Minnesota Thunder yn 2007. | ||
Manylion Personol | ||
---|---|---|
Enw llawn | David Robert Joseph Beckham | |
Dyddiad geni | (1975-05-02) 2 Mai 1975 (49 oed) | |
Man geni | Leytonstone, Llundain, Lloegr | |
Taldra | 1.83 m | |
Safle | Canol Cae | |
Manylion Clwb | ||
Clwb Presennol | Los Angeles Galaxy | |
Rhif | 23 | |
Clybiau Iau | ||
1987-1991 1991-1993 |
Brimsdown Rovers Tottenham Hotspur Manchester United | |
Clybiau | ||
Blwyddyn |
Clwb |
Ymdd.* (Goliau) |
1993-2003 1995 2003-2007 2007- 2009 |
Manchester United →Preston North End (benthyg) Real Madrid Los Angeles Galaxy →Milan (benthyg) |
265 (65) 5 (2) 116 (13) 41 (7) 29 (2) |
Tîm Cenedlaethol | ||
199201993 1994-1996 1996-2009 |
Lloegr odan-18 Lloegr odan-21 Lloegr |
3 (0) 9 (0) 115 (17) |
1Ymddangosiadau a goliau mewn clybiau hŷn |
Daeth Beckham yn ail ddwy waith yn Chwaraewr Blynyddol y Byd FIFA ac yn 2004, ef oedd y pêl-droediwr a gawsai ei dalu fwyaf yn y byd. Beckham oedd y pêl-droediwr Prydeinig cyntaf i chwarae 100 o êmau Cynghrair y Pencampwyr. Yn 2003 a 2004, ef hefyd oedd y pwnc chwaraeon y chwiliwyd amdano fwyaf ar gwefan Google. Gyda'r fath gyhoeddusrwydd fyd-eang, mae Beckham bellach yn arf farchnata o'r radd flaenaf ac yn eicon ffasiwn dylanwadol. Bu Beckham yn gapten ar Loegr o'r 15fed o Dachwedd 2000 tan Cwpan y Byd yn 2006 ac yn ystod y cyfnod hynny, chwaraeodd ar 58 achlysur. Ers hynny, parhaodd i gynrychioli ei wlad gan ennill ei ganfed cap i Loegr yn erbyn Ffrainc ar y 26ain o Fawrth 2008. Ar hyn o bryd, mae ganddo'r un nifer o gapiau a Bobby Moore sef y chwaraewr canol y maes i ennill fwyaf o gapiau dros ei wlad.
Dechreuodd gyrfa Beckham pan arwyddodd gytundeb proffesiynol gyda Manchester United gan chwarae ei gêm gyntaf i'r tîm cyntaf ym 1992 pan oedd yn 17 oed. Tra yno, enillodd Manchester United y Brif Gynghrair ar chwe achlysur, Cwpan yr FA ddwy waith a Chynghrair Pencampwriaeth UEFA yn 1999. Gadawodd Manchester United pan arwyddodd gytundeb gyda Real Madrid yn 2003, ac arhosodd yno am bedair tymor, gan gipio pencampwriaeth La Liga yn ei dymor olaf gyda'r clwb.
Ym mis Ionawr 2007, cyhoeddwyd y byddai Beckham yn gadael Real Madrid ac yn arwyddo cytudeb pum mlynedd gyda chlwb y Prif Gynghrair Pêl-droed, Los Angeles Galaxy. Dechreuwyd cytundeb Beckham gyda'r clwb ar y 1af o Orffennaf 2007. Chwaraeodd i'r tîm am y tro cyntaf mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Chelsea ar y 21ain o Orffennaf a sgoriodd ei gôl gyntaf ar y 15fed o Awst yn rownd cyn-derfynol y SuperLiga 2007.
Priododd y gantores Victoria Adams (y cyn-Spice Girl "Posh Spice") yn 1999. Mae ganddynt dri mab ac ar hyn o bryd, maent yn trigo ym Beverly Hills, Califfornia.