Datganiad Malé ar Newid Hinsawdd Byd-eang o ran y Ddynoliaeth
datganiad gan y CU parthed hawliau dynol a newid hinsawdd / From Wikipedia, the free encyclopedia
Datganiad o gytundeb yw Datganiad Malé ar Newid Hinsawdd Byd-eang o ran y Ddynoliaeth, a wnaed gan gynrychiolwyr yr 'Ynysoedd-gwladwriaethau bach, sy'n Datblygu' (Small Island Developing States) a ddaeth at ei gilydd i arwyddo'r datganiad yn Nhachwedd 2007. Roedd y Datganiad yn nodi strategaeth a llwybr clir i gyplysu newid hinsawdd a hawliau dynol gyda'i gilydd, a newid agenda yr ymgyrch i atal newid hinsawdd, yn ogystal â chreu Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig newydd ar Newid Hinsawdd (UNFCCC).[1] Cyn hyn, nid oedd fawr o gysylltiad rhwng newid hinsawdd a hawliau dynol. Gwnaeth y datganiad yn glir bod yr hawl i'r amgylchedd yn rhagarweiniol i fwynhad yr holl hawliau dynol eraill.[2]
Enghraifft o'r canlynol | manifesto |
---|---|
Dyddiad cyhoeddi | Tachwedd 2007 |
Ymweliadau Mary Robinson â llawer o wledydd dan fygythiad, a'i sylwadau ar y cysylltiadau rhwng newid hinsawdd a hawliau uman y cysylltiad, a roddodd sylw rhyngwladol i hyn. Yn y Maldives, mae newid yn yr hinsawdd eisoes yn digwydd, a sylweddolwyd fod hawliau dynol, felly, yn darparu fframwaith defnyddiol i newid yr agenda, ar lefel ryngwladol. Adeiladodd yr ynysoedd dan sylw glymblaid eang a phwerus, gan drefnu cyfarfodydd yn Genefa, Efrog Newydd a Malé.[3] Prifddinas y Maldives yw Malé a saif ar ynys o'r un enw; roedd y boblogaeth yn y cyfrifiad diwethaf yn 133,019 (2014). Mae'r ynysoedd dan fygythiad o ddifodiant o ganlyniad i lefelau'r môr yn codi.
Dangosodd y datganiad yr angen am strategaethau i ddelio â newid yn yr hinsawdd, o ran addasu neu liniaru, ac i amlinellu canlyniad senario 'dim newid' i fodau dynol, fel unigolion a chymunedau. Deallwyd, o'r dechrau bod y corff presennol o normau ac egwyddorion hawliau dynol yn cynnig sylfaen gadarn ar gyfer meddwl a gweithredu cyfrifol ac effeithiol yn hyn o beth.[4]