Départements Ffrainc
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae départements Ffrainc (Ffrangeg: Départements de France Llydaweg: Departamantoù gall, Basgeg: Frantziako departmenduak) yn ardaloedd gweinyddol yn Ffrainc a grëwyd yn 1790 ar ôl y Chwyldro Ffrengig. Defnyddir y term i gyfeirio at israniadau nifer o gyn-wladfeydd Ffrainc yn ogystal. Mae'r ardaloedd yn wleidyddol yn cyfateb yn fras i'r siroedd ym Mhrydain. Mae 101 département Ffrainc wedi eu grwpio yn 13 région (rhanbarth) y Ffrainc Fetropolitan a 5 rhanbarth tramor. Mae gan bob département statws cyfreithiol fel rhannau annatod o Ffrainc. Is-rennir y rhanbarthau yn ogystal yn 342 arrondissement (bwrdeistref).
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Math ...
Enghraifft o'r canlynol | math o adran weinyddol Ffrainc, math o endid cyfreithiol yn Ffrainc |
---|---|
Math | awdurdod lleol yn Ffrainc, is-adran weinyddol gwlad ail lefel, is-adran weinyddol gwlad ail lefel, is raniad (lefel 3) o sir, o ran gweinyddiaeth, etholaeth, department, NUTS 3 statistical territorial entity |
Rhan o | rhanbarthau Ffrainc, lefel 3 o gategorïau cyfreithiol yn Ffrainc |
Dechrau/Sefydlu | 4 Mawrth 1790 |
Yn cynnwys | canton of France |
Gwladwriaeth | Ffrainc |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cau