Cymdeithas Sant Vincent de Paul
Elusen Gatholig ryngwladol a sefydlwyd yn 1833 er budd y tlodion / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Cymdeithas Sant Vincent de Paul (Talfyriadau: SVP neu SVdP neu SSVP) yn fudiad gwirfoddol rhyngwladol yn yr Eglwys Gatholig, a sefydlwyd ym 1833 i sancteiddio ei haelodau trwy wasanaeth personol i'r tlodion. Cychwynwyd y gymdeithas gan Frédéric Ozanam ac Emmanuel Bailly, ac mae wedi'i henwi ar ôl Vincent de Paul. Mae'r sefydliad yn rhan o'r Teulu byd-eang o sefydliadau Catholig sydd wedi'u henwi ar ôl Vincent de Paul (24 Ebrill 1581 - 27 Medi 1660). Fe'i adwaenir yn gyffredin fel Saint Vincent de Paul, ac roedd yn offeiriad Catholig o Ocsitania a gysegrodd ei hun i wasanaethu'r tlodion.
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Dechrau/Sefydlu ...
Enghraifft o'r canlynol | mudiad gwirfoddol, sefydliad elusennol, urdd crefyddol, international association of the faithful |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 23 Ebrill 1833 |
Sylfaenydd | Frédéric Ozanam, Emmanuel Bailly |
Isgwmni/au | Saint Vincent de Paul thrift stores, Vinnies |
Gwefan | https://www.ssvpglobal.org/en/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cau