Cymdeithas Arddwriaethol Frenhinol
From Wikipedia, the free encyclopedia
Elusen arddio fwyaf y Deyrnas Unedig yw'r Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol (Saesneg: Royal Horticultural Society, RHS). Fe'i sefydlwyd ym 1804 fel Cymdeithas Arddwriaethol Llundain.
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Dechrau/Sefydlu ...
Enghraifft o'r canlynol | cymdeithas ddysgedig, sefydliad elusennol, horticultural society, International Cultivar Registration Authority |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1804 |
Sylfaenydd | John Wedgwood |
Gweithwyr | 1,010, 1,005, 810, 957, 783 |
Pencadlys | Llundain |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gwefan | https://www.rhs.org.uk/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cau
Mae'r RHS yn hyrwyddo garddwriaeth trwy ei bum gardd yn Wisley (Surrey), Hyde Hall (Essex), Harlow Carr (Gogledd Swydd Efrog), Rosemoor (Dyfnaint) a Bridgewater (Manceinion Fwyaf); sioeau blodau gan gynnwys Sioe Flodau Chelsea, Sioe Flodau Palas Hampton Court, Sioe Flodau Tatton Park a Sioe Flodau Caerdydd; cynlluniau garddio cymunedol; Cymru yn ei Blodau a rhaglen addysgol eang. Mae hefyd yn cefnogi hyfforddiant ar gyfer garddwyr proffesiynol ac amatur.