Cudyll bach
rhywogaeth o adar / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae'r Cudyll bach neu'r Llam-sydyn (Falco columbarius) yn aderyn ysglyfaethus bychan sy'n nythu trwy rannau helaeth o Ewrop, Asia a Gogledd America.
Cudyll bach | |
---|---|
Ceiliog | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | Aves |
Urdd: | Falconiformes |
Teulu: | Falconidae |
Genws: | Falco |
Rhywogaeth: | F. columbarius |
Enw deuenwol | |
Falco columbarius Linnaeus, 1758 | |
Adeiledir y nyth un ai ar lawr ar dir agored neu mewn coeden sy'n agos i dir agored. Yn y rhannau hynny lle mae'r gaeafau'n oer mae'n aderyn mudol, yn symud i'r de neu tua'r gorllewin i dreulio'r gaeaf. Lle nad yw'r gaeafau mor oer mae'n aros trwy'r flwyddyn ond yn aml yn symud o'r ucheldiroedd i dreulio'r gaeaf o gwmpas gan y môr.
Mae'r ceiliog y llwydlas ar y cefn a gwawr oren ar y bol. Mae'r iâr, sydd gryn dipyn yn fwy na'r ceiliog, yn frown tywyll ar y cefn ac yn wyn gyda smotiau brown ar y bol.
Prif fwyd y Gwalch bach yw adar bychain, megis ehedyddion a chorhedyddion, sy'n cael eu dal trwy hedfan yn isel ac yn gyflym dros dir agored. Ambell dro mae'n dal pryfed.
Nid yw'n aderyn cyffredin iawn yng Nghymru, ond mae cryn nifer yn nythu ar yr ucheldiroedd, er enghraifft ar Y Berwyn, ac maent i'w gweld yn rheolaidd ger glannau'r môr yn y gaeaf. Credir bod ei niferoedd yn sefydlog.