![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/da/Homarus_gammarus%252801%2529.jpg/640px-Homarus_gammarus%252801%2529.jpg&w=640&q=50)
Cramennog
From Wikipedia, the free encyclopedia
Anifeiliaid di-asgwrn-cefn o'r is-ffylwm Crustacea yw cramenogion. Maen nhw'n byw mewn dŵr gan amlaf, ond mae moch coed yn byw mewn cynefinoedd daearol.
Ffeithiau sydyn Cramenogion, Dosbarthiad gwyddonol ...
Cramenogion | |
---|---|
![]() | |
Cimwch (Homarus gammarus) | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Is-ffylwm: | Crustacea |
Dosbarthiadau | |
|
Cau
Mae 55,000 o rywogaethau o gramenogion. Maen nhw'n cynnwys y cranc, y cimwch, y gorgimwch (prawn), y berdysen (shrimp), y cimwch coch (crawfish) a'r gragen llong. Y gwahaniaeth amlwg rhwng y perdys a'r corgimychiaid yw eu maint gyda'r corgimwch yn ddwywaith maint y berdysen - yn aml, rhwng 12 cm a'r rhai trofannol hyd at 35 cm o'i gymharu â'r perdys oddeutu 7 cm. Maent yn byw yn y môr neu mewn dŵr croyw. Pan fo'r corgimychiaid yn cael eu paratoi ar gyfer y bwrdd bwyd, gelwir nhw yn 'sgampi'.