Cocên
From Wikipedia, the free encyclopedia
Cyffur sy'n cael ei greu gyda dail coca yw cocên. Fel arfer, mae cocên yn dod ar ffurf powdr gwyn. Caiff y rhan fwyaf o gocên ei ddefnyddio fel cyffur anghyfreithlon. Gan fod y cyffur yn gynhyrfwr, mae'n rhoi egni i bobl. Mae hefyd yn gwneud i bobl deimlo'n hapus iawn pan fyddan nhw'n cymryd y cyffur. Pan fydd cocên yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd yma, mae'n gallu achosi pobl i fod yn ddibynnol arno. Fodd bynnag, mae cocên yn gallu cael ei ddefnyddio fel anesthetig lleol os yw'n cael ei osod ar y croen neu'r deintgig.[1]
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Math ...
Enghraifft o'r canlynol | math o endid cemegol |
---|---|
Math | ester, amine trydyddol, cocaine |
Màs | 303.147 uned Dalton |
Fformiwla gemegol | C₁₇h₂₁no₄ |
Clefydau i'w trin | Poen, peswch |
Beichiogrwydd | Categori beichiogrwydd unol daleithiau america c |
Rhan o | rhwymiadau cocên, proses metabolig cocên, proses catabolig cocên, proses biosynthetig cocên, adwaith y celloedd i gocên, adwaith i gocên |
Yn cynnwys | nitrogen, ocsigen, carbon, hydrogen |
Cynnyrch | Erythroxylum coca, Erythroxylum novogranatense |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cau