Carchar Alcatraz
From Wikipedia, the free encyclopedia
Carchardy enwog ar Ynys Alcatraz ym Mae San Francisco, gyferbyn â dinas San Francisco ei hun, yn Califfornia, yr Unol Daleithiau (UDA), yw Carchar Alcatraz. Sefydlwyd carchar diogelwch uchel ar yr ynys yn 1932 a ddaeth yn ddrwgenwog am lymder ei disgyblaeth ac yn ddihareb am rywle amhosibl i ddianc ohono. Serch hynny llwyddodd rhai o'r carcharorion i dorri allan yn 1962 a chafwyd ffilm am y digwyddiad yn 1979. Caewyd fel carchar yn 1969.
Ffeithiau sydyn Math, Sefydlwyd ...
Math | United States Penitentiaries, amgueddfa |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | San Francisco |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Cyfesurynnau | 37.83°N 122.42°W |
Rheolir gan | Federal Bureau of Prisons |
Cau