Camlas
From Wikipedia, the free encyclopedia
Dyfrffordd wedi ei gwneud gan ddyn rhwng llynnoedd, afonydd neu foroedd yw camlas. Pwrpas camlas yw cludo nwyddau neu bobl mewn cwch neu long. Mae camlesi hefyd yn cael eu creu er mwyn dod â dŵr i ddyfrhau tiroedd sychion. Mae rhai pobl yn byw mewn cychod ar gamlesi.
Enghraifft o'r canlynol | math o afon, pensaernïaeth |
---|---|
Math | adeiladwaith hydrolig, corff dŵr artiffisial, adeiladwaith llinol, cwrs dŵr, isadeiledd, adeiladwaith pensaernïol |
Yn cynnwys | loc |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yng Ngorllewin Ewrop roedd camlesi yn bwysig iawn cyn dyfodiad y rheilffyrdd adeg y Chwyldro Diwydiannol ond pan ddaeth y rheilffyrdd collasant eu pwysigrwydd, a defnyddiwyd llawer ohonynt fel llwybr i'r rheilffordd ar ôl ailgyfeirio'r dŵr.
Gyda tyfiant twristiaeth defnyddir cychod ar gamlesi fel lle i ymwelwyr gysgu ac aros ynddynt tra yn teithio ar hyd y gamlas. Ond mewn rhai gwledydd, e.e. yn Tsieina a De-ddwyrain Asia, mae nifer o bobl yn dal i fyw a gweithio ar eu cychod ar y camlesi.