Bromley a Chislehurst (etholaeth seneddol)
etholaeth seneddol yn y Deyrnas Unedig, 1997 ymlaen / From Wikipedia, the free encyclopedia
Etholaeth seneddol yn Llundain Fwyaf, Lloegr, yw Bromley a Chislehurst (Saesneg: Bromley and Chislehurst). Dychwela un AS i Dŷ'r Cyffredin yn San Steffan, sef yr ymgeisydd gyda'r nifer fwyaf o bleidleisiau.
- Etholaeth Bromley a Chislehurst yn Llundain Fwyaf
- Llundain Fwyaf yn Lloegr
Ffeithiau sydyn Math, Ardal weinyddol ...
Math | Etholaeth Senedd y Deyrnas Unedig |
---|---|
Ardal weinyddol | Bwrdeistref Llundain Bromley |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 29.363 km² |
Cyfesurynnau | 51.3984°N 0.045°E |
Cod SYG | E14000604 |
Cau
Ac eithrio ambell stad o dai cyngor mewn ardaloedd fel Mottingham a Bromley Common, mae'r etholaeth hon yn gymharol lewyrchus a swbwrbaidd.
Sefydlwyd yr etholaeth yn 1918. Yn 1974 newidiwyd yr enw i "Ravensbourne". Ychydig cyn etholiad 1997 cyfunwyd wardiau Chislehurst a Ravensbourne i ffurfio "Bromley a Chislehurst".