Bethnal Green a Bow (etholaeth seneddol)
etholaeth seneddol / From Wikipedia, the free encyclopedia
Etholaeth seneddol yn Llundain Fwyaf, Lloegr, yw Bethnal Green a Bow (Saesneg: Bethnal Green and Bow). Dychwela un AS i Dŷ'r Cyffredin yn San Steffan, sef yr ymgeisydd gyda'r nifer fwyaf o bleidleisiau.
- Etholaeth Bethnal Green a Bow yn Llundain Fwyaf
- Llundain Fwyaf yn Lloegr
Ffeithiau sydyn Math, Ardal weinyddol ...
Math | Etholaeth Senedd y Deyrnas Unedig |
---|---|
Ardal weinyddol | Bwrdeistref Llundain Tower Hamlets |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 9.176 km² |
Cyfesurynnau | 51.53°N 0.05°W |
Cod SYG | E14000555 |
Cau
Bodolai'r etholaeth yn wreiddiol rhwng 1974-1983 ac ail-grëwyd yr etholaeth ym 1997. Mae'n un o etholaethau tlotaf Llundain, gydag amrywiaeth ethnig mawr gyda lleiafswm sylweddol o'r trigolion yn dod o Bangladesh.
Ers newid ffiniau'r etholaeth yn 2014 mae'r etholaeth yn cynnwys y wardiau canlynol: Weavers, Spitalfields and Banglatown, Whitechapel, St. Peter's, Bethnal Green, Stepney Green, St. Dunstan's, Bow West a Bow East.