Baner Gweriniaeth Pobl Tsieina
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae "Baner Tsieina" yn ailgyfeirio i'r erthygl hon. Am faner Taiwan, gweler Baner Gweriniaeth Tsieina.
Maes coch (lliw traddodiadol comiwnyddiaeth a'r Tsieineaid) gyda seren felen (i symboleiddio comiwnyddiaeth) a phedair seren lai o faint (i gynrychioli dosbarthau cymdeithasol pobl Tsieina: y gwerinwyr, y gweithwyr, y petite bourgeoisie, a chyfalafwyr gwladgarol) yw baner Gweriniaeth Pobl Tsieina. Mae'r pum seren hefyd yn symboleiddio pwysigrwydd y rhif 5 mewn athroniaeth Tsieineaidd, ac mae ganddynt nifer o ddehongliadau eraill ynglŷn â'u hystyr. Mabwysiadwyd ar 1 Hydref, 1949.