Baner Feneswela
baner / From Wikipedia, the free encyclopedia
Codwyd baner Feneswela neu baner Venezuela gyntaf ym 1806 gan y gwrthryfelwr, Francisco de Miranda. Yn ystod ei hoes mae wedi bod trwy sawl newid. Ar 1 Mai 1817 ychwanegwyd saith seren i'r faner, yna o Dachwedd 1817 wyth seren. Tra bod baner Gran Colombia ("Colombia Fawr") (1819-1830) ac yna faner Venezuela (o 1830) yn dangos dim sêr i gychwyn, dangoswyd saith sêr ar y faner o 1859, roedd eu cynrychiolaeth yn amrywio tan y deddf staduol 1954. Ers 12 Mawrth 2006, mae gan y faner Feneswela wyth seren.
Enghraifft o'r canlynol | baner cenedlaethol |
---|---|
Lliw/iau | melyn, glas, coch, gwyn |
Dechrau/Sefydlu | 12 Mawrth 2007 |
Genre | horizontal triband |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae baner Ecwador a baner Colombia yn seiliedig ar yr un cynllun trilliw bras.
Diwrnod y Faner Feneswela yw 3 Awst. Cyn 2006 y dathlwyd y diwrnod ar 12 Mawrth. Mae gan y faner anthem genedlaethol ei hun, sef Himno de la Bandera. Ceir hefyd llw ysgrifenedig y bydd myfyrwyr yn adrodd ar Ddiwrnod y Faner (3 Awst).