![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/2/28/Ashoka%2527s_visit_to_the_Ramagrama_stupa_Sanchi_Stupa_1_Southern_gateway.jpg/640px-Ashoka%2527s_visit_to_the_Ramagrama_stupa_Sanchi_Stupa_1_Southern_gateway.jpg&w=640&q=50)
Asoka
From Wikipedia, the free encyclopedia
Ymerawdwr Ymerodraeth y Maurya yn India o 268 CC hyd 231 CC oedd Asoka, hefyd Ashoka, a elwir yn Asoka Fawr. Roedd ei ymerodraeth yn ymestyn o’r hyn sy’n awr yn Affganistan hyd Bengal ac i’r de cyn belled a Mysore.
Asoka | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 304 CC ![]() Patna ![]() |
Bu farw | 232 CC ![]() Patna ![]() |
Dinasyddiaeth | Maurya empire, India ![]() |
Galwedigaeth | gwleidydd, ymerawdwr, bhikkhu ![]() |
Swydd | Mauryan Emperor ![]() |
Prif ddylanwad | Siddhartha Gautama ![]() |
Tad | Bindusara ![]() |
Mam | Subhadrangi ![]() |
Priod | Tishyaraksha, Karuvaki, Devi, Padmavati, Asandhimitra ![]() |
Plant | Kunala, Mahinda, Sangamitta, Tivala, Charumati ![]() |
Perthnasau | Chandragupta Maurya ![]() |
Llinach | Maurya dynasty ![]() |
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/bf/Mauryan_Empire_Map.gif/320px-Mauryan_Empire_Map.gif)
Ystyr ei enw yn yr iaith Pali yw “rhydd o ofalon”. Roedd yn fab i’r ymerawdwr Bindusara a’i wraig Dhamma, ac yn wyr i .Chandragupta Maurya.Wedi dod i’r orsedd, bu’n ryfelwr llywyddiannus dros ben, ond daeth dan ddylanwad Bwdhaeth ac ymwrthododd a rhyfel.
Yn 250 CC, cynhaliwyd Trydydd Cyngor Bwdhaeth dan nawdd Asoka. Yn dilyn y cyngor, gyrrodd Asoka fynachod i wahanol deyrnasoedd, yn cynnwys Bactria, Nepal, Myanmar, Gwlad Tai a Sri Lanca, ac efallai cyn belled ag Alexandria yn yr Aifft, Antioch ac Athen.
Daeth colofn o waith Asoka, a ddarganfuwyd yn Sarnath, yn arwyddlun cenedlaethol India, a cheir llun o ran ohoni ar faner India.