Ardaloedd awdurdod lleol yn Lloegr
From Wikipedia, the free encyclopedia
Lefel o lywodraeth leol yn Lloegr yw'r ardal (Saesneg: district), a elwir hefyd yn ardal awdurdod lleol neu ardal llywodraeth leol.
Mae strwythur llywodraeth leol yn Lloegr yn gyfuniad o systemau, ac mae pedair prif fath israniadau ar lefel yr ardal, ac mae cyfanswm o 315 o ardaloedd yn cynnwys:
- 184 o ardaloedd an-fetropolitan
- 58 o awdurdodau unedol
- 36 o fwrdeistrefi metropolitan
- 32 o fwrdeistrefi Llundain
- Dinas Llundain ac Ynysoedd Syllan, gyda'u systemau arbennig eu hunain
Gelwir rhai ardaloedd "bwrdeistrefi", "dinasoedd", neu "fwrdeistrefi brenhinol"; mae'r rhain yn enwau ffurfiol yn unig, ac nid ydynt yn newid statws yr ardal.
Mae pob bwrdeistref a dinas, ac ychydig o ardaloedd, yn cael eu harwain gan faer sydd fel arfer yn ffigur seremonĂ¯ol a etholir gan y cyngor dosbarth; fodd bynnag, mae gan rai ardaloedd faer etholedig uniongyrchol sy'n gwneud y rhan fwyaf o'r penderfyniadau polisi yn lle'r cyngor.