Ardal Forol Warchodedig
From Wikipedia, the free encyclopedia
Ardal warchodedig sydd yn cynnwys ardal fôr yw Ardal Forol Warchodedig. Fel arfer mae ardaloedd morol gwarchodiedig yn cyfyngu ar weithgarwch dynol at ddiben cadwraeth, er mwyn diogelu adnoddau naturiol neu ddiwylliannol.
Ffeithiau sydyn Math ...
Math | ardal gadwriaethol, gwarchodfa natur |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cau
Gall yr amddiffyniad hwn gynnwys cyfyngiadau ar ddatblygiad masnachol, arferion pysgota, tymhorau pysgota a therfynau dalfa, angorfeydd a gwaharddiadau ar symud neu darfu ar fywyd morol.
Gall yr ardaloedd hyn gael eu gwarchod gan awdurdodau ar lefelau amrywiol – lleol, gwladwriaethol, taleithiol, rhanbarthol, brodorol, cenedlaethol neu ryngwladol – mae natur y rheolaeth hon yn amrywio'n sylweddol rhwng rhanbarthau.