Anna Leonowens
From Wikipedia, the free encyclopedia
Athrawes ac awdures enwog oedd Anna Harriette Leonowens (née Edwards) (5 Tachwedd 1831 – 19 Ionawr 1915). Cred rhai iddi gael ei geni yng Nghaernarfon, ond nid oes tystiolaeth o hynny.
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Anna Leonowens | |
---|---|
Ganwyd | 6 Tachwedd 1831 Ahmednagar |
Bu farw | 19 Ionawr 1915 Montréal |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | athro, hunangofiannydd, ysgrifennwr, teithiwr, addysgwr, bywgraffydd, swffragét, addysgwr |
Tad | Sgt. Thomas Edwards |
Mam | Mary Ann Glascott |
Plant | Louis T. Leonowens |
Cau
Fe'i ganed yn Ahmadnagar, India, yn ferch y milwr Thomas Edwards a'i wraig Mary Anne Glasscott. Priododd Thomas Leon Owens, (a Seisnigiwyd yn Leonowens), yn 1849. Bu farw Thomas yn 1859. Anna oedd athrawes plant Mongkut, brenin Siam, rhwng 1862 a 1867.
Bu farw Anna yng nghartref ei mherch, yng Nghanada.