Angela Crawley
From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwleidydd o'r Alban yw Angela Crawley (ganwyd 3 Mehefin 1987) a etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Lanark a Dwyrain Hamilton; mae'r etholaeth yn siroedd Dumfries a Galloway, Gororau'r Alban a De Swydd Lanark. Mae hi'n cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin.
Ffeithiau sydyn Rhagflaenydd, Geni ...
Angela Crawley AS | |
Cyfnod yn y swydd 7 Mai 2015 – Mai 2020 | |
Rhagflaenydd | Jimmy Hood |
---|---|
Geni | (1987-06-03) 3 Mehefin 1987 (35 oed) Hamilton, Yr Alban |
Cenedligrwydd | Albanwr |
Etholaeth | Lanark a Dwyrain Hamilton |
Plaid wleidyddol | Plaid Genedlaethol yr Alban |
Alma mater | Prifysgol Stirling |
Galwedigaeth | Gwleidydd |
Gwefan | http://www.snp.org/ |
Cau
Fe'i ganed yn Hamilton yn yr Alban. Astudiodd wleidyddiaeth ym Mhrifysgol Stirling lle derbyniodd Radd BA. Wedi hynny, gweithiodd yn Brighton i'r cwmni Educational Travel Group. Ar hyn o bryd mae'n astudio ar gyfer Gradd Doethuriaeth LLB ym Mhrifysgol Glasgow.