Émile Zola
newyddiadurwr, dramodydd a bardd o Ffrainc (1840-1902) / From Wikipedia, the free encyclopedia
Awdur Ffrengig oedd Émile Zola (2 Ebrill 1840 - 29 Medi 1902). Ystyrir ef yn un o lenorion Ffrangeg pwysicaf y 19g.
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Émile Zola | |
---|---|
Ganwyd | Émile Édouard Charles Antoine Zola 2 Ebrill 1840 Paris, rue Saint-Joseph |
Bu farw | 29 Medi 1902 o carbon monoxide poisoning Paris |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Galwedigaeth | newyddiadurwr gwleidyddol, beirniad celf, nofelydd, awdur ysgrifau, dramodydd, awdur storiau byrion, beirniad llenyddol, adolygydd theatr, newyddiadurwr, ysgrifennwr, bardd, ffotograffydd |
Swydd | llywydd corfforaeth, arlywydd |
Adnabyddus am | Les Rougon-Macquart, Thérèse Raquin, J'Accuse, Nana |
Arddull | nofel, stori fer |
Prif ddylanwad | Honoré de Balzac |
Mudiad | Naturiolaeth (llenyddiaeth), Rhyddfeddyliaeth |
Tad | Francesco Zola |
Mam | Émilie Aubert |
Priod | Alexandrine Meley |
Partner | Jeanne Rozerot |
Plant | Jacques Zola, Denise Zola |
Gwobr/au | Officier de la Légion d'honneur |
llofnod | |
Cau
Ganed Zola yn ninas Paris, ond magwyd ef yn Aix-en-Provence. Wedi methdaliad ei dad, dioddefodd y teulu rai blynyddoedd o dlodi. Aeth Émile i weithio i'r cwmni cyhoeddi Hachette. Daeth i sylw gyda'i nofel Thérèse Raquin yn 1867.
Ymhlith ei weithiau enwocaf mae'r nofel Germinal (1885) a'i lythyr agored J'Accuse...! (1898) yn amddiffyn Alfred Dreyfus, oedd wedi ei garcharu ar gam fel ysbïwr.
Bu farw yn sydyn yn ei dŷ yn Rue de Bruxelles, Paris, o effeithiau nwyon carbon monocsid. Gwenwynwyd ei wraig gan y nwyon hefyd, ond llwyddwyd i achub ei bywyd hi yn ysbyty Neuilly.